Gwybodaeth i Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar effaith costau cynyddol

 

Ynglŷn â TAC

 

1.       Mae TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yn cynrychioli’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru. Mae ein sector yn rhan hynod bwysig o’r diwydiannau creadigol, yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach, ac mae Caerdydd ei hun y trydydd clwstwr ffilm a theledu mwyaf yn y DU. Mae hyn yn darparu buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol drwy gyflenwi cynnwys creadigol. Mae tua 50 o gwmnïau yn y sector, yn amrywio o gynhyrchwyr unigol i rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r diwydiant cynhyrchu yn y DU. Maent yn cynhyrchu cynnwys i’r BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky yn ogystal â darlledwyr a phlatfformau masnachol eraill. Cwmnïau ein haelodau sy’n cynhyrchu bron yr holl gynnwys teledu a chyfryngau ar-lein gwreiddiol i’r darlledwr iaith Gymraeg S4C, ac amrywiaeth o gynyrchiadau radio i’r BBC.

 

Ynglŷn â’r ymateb hwn

 

2.       Mae’r Pwyllgor wedi gofyn am wybodaeth ar sut mae costau cynyddol yn cael effaith ar y diwydiannau creadigol. Yn yr amser sydd ar gael mae TAC wedi canfasio’i aelodau ac rydym wedi gosod isod y prif faterion a godwyd ganddynt.

 

Ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor

 

Cw: Pa effeithiau y mae costau byw cynyddol wedi'u cael ar eich sefydliad a'ch sector hyd yn hyn?

 

3.       Y tu allan i gostau cynhyrchu penodol, mae costau nwyddau cyffredinol a chostau gwasanaethau yn amlwg hefyd yn uwch i fusnesau. Mae rhai aelodau wedi dweud mai'r cynnydd mewn prisiau ynni fydd yn effeithio arnynt fwyaf, o ran costau trydan a gwres yn y swyddfa. Mae hyn yn rhannol oherwydd eu bod yn disgwyl i fwy o staff ddod i'r swyddfa yn hytrach na gweithio o adref, er mwyn arbed costau trydan yn eu cartrefi. Rydym yn croesawu’r gwaith gan yr Elusen Ffilm a Theledu i gyhoeddi pecyn cymorth i gynorthwyo pobl yn y diwydiant i reoli eu cyllid.[1]

 

4.       Mae gweithgaredd cynhyrchu ein haelodau yn cael ei effeithio gyda chostau ynni, tanwydd, bwyd, arlwyo, llogi car a chostau llety i gyd yn uwch. Er bod peth llai o deithio i’w weld yn y cyfnod ar ôl Covid mae anghenion ffilmio yn golygu mai budd cyfyngedig yw hyn mewn rhai ardaloedd ac rydym dal angen pobl i deithio ac aros ar leoliad. Bydd y newidiadau diweddar hyn wedi cynyddu costau cynhyrchwyr ar ôl i gyllidebau ar gyfer rhaglenni gael eu cytuno, gan leihau neu ddileu’r elw ar wneud sioe.

 

5.       Yn ystod cyfnodau clo Covid, gwnaeth rhai gweithwyr llawrydd adael y diwydiant, gan olygu bod prinder staff wedi gwthio costau criwiau a staffio ar i fyny. Mae cwmnïau'n ei chael hi'n anodd diogelu a chadw staff oherwydd bod gweithwyr llawrydd yn codi eu prisiau. Yn y tymor canolig/hir fe allai'r cynlluniau hyfforddi, megis yr un a ddarperir gan S4C a TAC, a hefyd Channel 4 a Cymru Greadigol - os ydynt yn parhau, ddod â mwy o weithwyr i'r farchnad ac y bydd hyn yn helpu.

 

6.       Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y platfformau ffrydio teledu (Netflix, Disney + ayb) yn achosi chwyddiant ym mhrisiau talent cynhyrchu, ond hefyd oherwydd cystadleuaeth rhwng cynhyrchwyr annibynnol am dalent. Er bod hyn yn beth da mewn rhai ffyrdd gan fod y llwyfannau ffrydio yn gwneud mwy o gynyrchiadau cyllideb uwch, mae hyn yn darparu llai o le i gynyrchiadau cyllideb is, gan fod cwmnïau'n ddealladwy yn canolbwyntio ar y sioeau cyllideb uwch. Sioeau cyllideb is yw ble mae llawer o staff cynhyrchu yn dysgu eu crefft.

 

7.       Mae'n bwysig nodi nad yw cyllidebau darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU yn cynyddu.  Gallant gynnig ychydig yn ychwanegol, ond nid yn unol â chwyddiant, ac mae cynhyrchwyr felly yn ceisio delio â chostau cynyddol heb fwy o arian yn dod i mewn. Mae hyn yn sefyllfa ansicr i gwmnïau fod ynddo, mae llif arian yn cael ei leihau ac mae cwmnïau llai yn ei chael hi'n anodd iawn, naill ai nad ydynt yn gallu ariannu datblygiad neu yn methu cymryd risg wrth fynd i gynhyrchiad lle gallai fod yna orwariant.

 

8.       Mae rhai rhaglenni yn cael eu comisiynu'n hwyrach nag y dylent gan y darlledwyr.  Pan yn hwyr, mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar gostau, gan ei bod yn anoddach dod o hyd i staff sy'n golygu bod yn rhaid talu cyfraddau uwch weithiau.

 

9.       Cyd-gynyrchiadau yw’r unig ffordd ar adegau i gychwyn cynhyrchiad, ond mae'r rhain yn gytundebau cymhleth i gwmnïau, er enghraifft mae cael cynhyrchwyr eraill ynghlwm yn cael effaith ar refeniw IP.

 

Cw: Pa effeithiau ydych chi'n rhagweld y bydd costau cynyddol yn eu cael ar eich sefydliad a'ch sector? I ba raddau y bydd yr effeithiau hyn yn anghildroadwy (e.e. lleoliadau'n cau, yn hytrach nag yn gyfyngiad dros dro yn unig ar weithgareddau)?

 

10.   Yn y tymor hir mae'n bosib y bydd chwyddiant cynyddol, os nad yw'n cyfateb i refeniw’r darlledwr, yn golygu bod llai o raglenni'n cael eu comisiynu, a fydd yn effeithio ar y diwydiant. Mae pob cwmni cynhyrchu yn dibynnu ar gael llif arian rheolaidd, ac os oes llai o gynyrchiadau ynghyd â chostau busnes cynyddol, gallai hyn achosi i rai busnesau ddod yn anhyfyw a gorfod cau.

 

11. Bydd hyn yn cael ei gymhlethu gyda phreifateiddio Channel 4. Bydd dileu ei fodel cyhoeddwr-ddarlledwr wedi hynny yn lleihau gwaith yn y sector annibynnol. Yn ogystal, bydd ei ostyngiad o’i wariant y tu allan i Lundain a chael gwared â’i ganolfannau y tu allan i Lundain a’r cynlluniau hyfforddiant a sgiliau, a fydd bron yn sicr yn ganlyniad preifateiddio, hefyd yn cael effaith negyddol.  Bydd rhewi Ffi’r Drwydded Deledu hefyd yn achosi problemau gan y bydd cynnydd mewn chwyddiant yn golygu y bydd gan y BBC lawer llai o arian i’w wario mewn termau real.

Cw: Pa ymyriadau yr hoffech eu gweld gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

 

12.   Byddai ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda threthi busnes yn cael ei groesawu. Rydym yn cydnabod ei fod eisoes yn darparu peth rhyddhad ar drethi busnes, ond mae'n ddigon posibl y bydd angen adolygu’r rhain i ystyried chwyddiant.

 

13.   Bydd cefnogaeth barhaus Cymru Greadigol i fuddsoddi mewn hyfforddiant, ac i barhau i gynnig cefnogaeth i ddenu gwaith i ddod i Gymru yn bwysig. Rydym yn edrych ymlaen at weld strategaeth Cronfa Sgiliau Cymru Greadigol, i'w chyhoeddi cyn hir.

 

14.   Dylai Llywodraeth y DU edrych a oes unrhyw ffyrdd o ymestyn y cynlluniau rhyddhad treth presennol. Er enghraifft, mae'r trothwy ar gyfer y rhyddhad treth drama deledu o’r radd flaenaf yn rhy uchel i fod o fudd i raglenni ar S4C sy'n gorfod gweithio gyda chyllidebau is wrth barhau i gynhyrchu cynnwys o safon uchel. Hoffem weld Llywodraeth y DU yn gostwng y trothwy ar gyfer cynyrchiadau iaith frodorol leiafrifol. 

 

Cw: I ba raddau y mae’r effeithiau a ddisgrifiwch yn wahanol ar bobl â nodweddion gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is?

15.   Ni fu erioed fwy o ymwybyddiaeth yn y diwydiant o'r angen i gydnabod nodweddion gwarchodedig. Mae mwy o gyfleoedd wedi Covid – cyfarfodydd a gweithio rhithiol yn caniatáu cynnwys mwy o bobl. Mae'r angen i deithio llai wedi bod o fudd i'r rhai sydd â llai o symudedd.

 

16.   Mae costau ychwanegol o ddarparu ar gyfer cyflogi pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn ystyriaeth mewn cyfnod o gyni economaidd. Mae costau teithio i'r gwaith yn ffactor real i unigolion sydd yn dod o gefndir economaidd-gymdeithasol is – byddai cefnogaeth ariannol ar gyfer teithio i'r gwaith ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ddefnyddiol yn hyn o beth, naill ai drwy beidio â chynyddu costau tocynnau trên / pt "Times New Roman"'>   Dylai Llywodraeth y DU edrych a oes unrhyw ffyrdd o ymestyn y cynlluniau rhyddhad treth presennol. Er enghraifft, mae'r trothwy ar gyfer y rhyddhad treth drama deledu o’r radd flaenaf yn rhy uchel i fod o fudd i raglenni ar S4C sy'n gorfod gweithio gyda chyllidebau is wrth barhau i gynhyrchu cynnwys o safon uchel. Hoffem weld Llywodraeth y DU yn gostwng y trothwy ar gyfer cynyrchiadau iaith frodorol leiafrifol. 

 

Cw: I ba raddau y mae’r effeithiau a ddisgrifiwch yn wahanol ar bobl â nodweddion gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is?

15.   Ni fu erioed fwy o ymwybyddiaeth yn y diwydiant o'r angen i gydnabod nodweddion gwarchodedig. Mae mwy o gyfleoedd wedi Covid – cyfarfodydd a gweithio rhithiol yn caniatáu cynnwys mwy o bobl. Mae'r angen i deithio llai wedi bod o fudd i'r rhai sydd â llai o symudedd.

 

16.   Mae costau ychwanegol o ddarparu ar gyfer cyflogi pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn ystyriaeth mewn cyfnod o gyni economaidd. Mae costau teithio i'r gwaith yn ffactor real i unigolion sydd yn dod o gefndir economaidd-gymdeithasol is – byddai cefnogaeth ariannol ar gyfer teithio i'r gwaith ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ddefnyddiol yn hyn o beth, naill ai drwy beidio â chynyddu costau tocynnau trên / bysiau neu dalebau i alluogi gweithwyr i deithio i'r gwaith.

 

 

www.tac.cymru

 



[1] https://filmtvcharity.org.uk/your-support/financial-support/